Hafan > Disgyblion > Dewiniaid Digidol

Dewiniaid Digidol

Gweledigaeth y Dewiniaid Digidol

Ein gweledigaeth yw creu ysgol lle mae pob disgybl yn hyderus, yn ddiogel ac yn greadigol wrth ddefnyddio technoleg ddigidol. Bydd y Dewiniaid Digidol yn arwain drwy esiampl, yn rhannu eu sgiliau ac yn helpu eraill i ddatblygu eu gwybodaeth a’u hyder mewn TGCh.

Aelodau:

Elis, Jac, Kira, Cadi, Jamie a Gruff.

Bydd y Dewiniaid Digidol yn:

  • Hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ar draws yr ysgol.
  • Rhannu eu sgiliau a’u gwybodaeth ddigidol gyda disgyblion.
  • Cefnogi disgyblion iau i ddatblygu sgiliau TGCh, codio a defnyddio apiau amrywiol.
  • Helpu disgyblion Blwyddyn 2 i ddefnyddio TT Rock Stars.
  • Trefnu a hyrwyddo gweithgareddau codio a heriau digidol.
  • Arwain gwasanaethau a gweithgareddau ar gyfer Diwrnod Diogelwch y We.
  • Casglu barn a gwybodaeth am sgiliau digidol y disgyblion drwy holiaduron.
  • Annog creadigrwydd, datrys problemau a chydweithio drwy dechnoleg.

Beth yw y Dewiniaid Digidol?

Mae’r Dewiniaid Digidol yn gynrychiolwyr sydd wedi eu hethol gan eu cyd-ddisgyblion er mwyn cyd-weithio i ddatblygu TGCh ar draws yr ysgol. Plant Blwyddyn 4, 5 a 6 ydi’r Dewiniaid Digidol. Mae ganddynt rôl bwysig i hyrwyddo e-ddiogelwch o fewn yr Ysgol. Maent yn dda iawn gyda sgiliau TGCh ac yn barod i ddangos eu sgiliau i eraill a helpu disgyblion iau ac yn enwedig disgyblion Cyfnod Sylfaen yr Ysgol. Yn ystod y flwyddyn bydd y Dewiniaid Digidol yn cynnal diwrnod codio a gwasanaeth Ysgol gyfan ar Ddiwrnod Diogelwch y We. 

Aelodau o grŵp Dewiniaid Digidol Ysgol Bro Gwydir 2026-27