Hafan > Disgyblion > Cyngor Ysgol

Cyngor Ysgol

Croeso i dudalen Y Cyngor Ysgol, Ysgol Bro Gwydir

Beth yw cyngor ysgol?

Grwp o ddigyblion yw cyngor ysgol, wedi’u hethol gan eu cyd-ddisgyblion i gynrychioli eu barn a chodi materion gydag uwch-reolwyr a llywodraethwyr yr ysgol. Gall cyngor yr ysgol hefyd gymryd rhan a threfnu prosiectau ar ran y disgyblion, a chyfrannu at gynllunio yn ogystal a thrafod syniadau ar sut i weithredu Cynllun Datblygu’r Ysgol orau yn ogystal â chyfrannu barn tuag at gyfarfodydd llywodraethu a phenodiadau staff.

Byddem yn trafod unrhyw faterion sydd wedi codi, syniadau art sut i wella’r ysgol a threfnu unrhyw ddigwyddiadau.

Bydd Cyngor Ysgol Bro Gwydir yn:

  • Lais i holl blant yr ysgol
  • Parhau i wella ein hysgol
  • Helpu i gadw’r ysgol yn iach a diogel
  • Helpu’r plant i fod yn ffrindiau
  • Rhoi cyfle i bawb rannu syniadau
  • Trafod syniadau newydd
  • Casglu arian er mwyn helpu elusennau
  • Trefnu digwyddiadau i gasglu arian tuag at adnoddau newydd i’r ysgol er mwyn hybu iechyd a lles ein disgyblion
  • Y Cyngor Ysgol yw llais ein plant, mae ganddynt yr hawl i drafod a gwneud penderfyniadau er mwyn gwella ein hysgol.

Aelodau Cyngor Ysgol 2026 - 2027

Gruff, John, Emmie, Gweni, Zac, Sylvie, Archie, Oli, Erin, Richie, Myfi

Prif Aelodau o Gyngor Ysgol Bro Gwydir 2026-27
Casgliad o luniau o aelodau Cyngor Ysgol Bro Gwydir 2026-27